Re: [gnome-cy]Cyfarfod posib



On Mon, 2002-10-14 at 16:49, Rhys Jones wrote:

Rhaid i mi setio evolution lan i gyfieithu hwnna :)

> Pwrpas y cyfarfod? Well, cwrdd a'n gilydd ('thgwrs...) taflu syniadau o 
> gylch y lle, a gweld pwy fyddai am wneud beth. Ac o bosib dangos rhai 
> systemau cyfieithu sy'n bodoli'n barod.

Swnio'n dda.

> Lleoliad? Yn bersonol, gan siarad ar ran neb ond fy hunan, Abertawe
> fyddai'n ddelfrydol :) Os oes nifer o'r Gogledd am ddod i'r cyfarfod,
> hwyrach mai Caerfyrddin/Llanbed neu efallai Aberystwyth fyddai'r lle
> gorau i'w gynnal.

Rwy'n ddigon hapus i deithio lawr tuag at Abertawe, neu lle bynnag.
Fyddai Aberystwyth hyd yn oed yn well, ond mae gen i deimlad taw nid
dyma'r lle gorau i bawb ;) Mae'n cymryd tua awr i fi gyrraed Caerfyrddin
o yma, neu awr a hanner i Abertawe. Enwa lle sy'n ddigon agos i'r M4 a
fe fydda i yno.

> Dyddiad? Cyn gynted ag y bo modd; dyweder o fewn y bythefnos/dair 
> wythnos nesaf. Os oes 'na gytundeb ar un diwrnod, gorau oll.

Yn ystod yr wythnos sydd orau i mi.

Gareth


_______________________________________________
gnome-cy mailing list
gnome-cy pengwyn linux org uk
http://pengwyn.linux.org.uk/mailman/listinfo/gnome-cy



[Date Prev][Date Next]   [Thread Prev][Thread Next]   [Thread Index] [Date Index] [Author Index]