[gnome-cy] Sut i nodi newidiadau sydd eu hangen?



Helo,

Yn gyntaf, dwi'n teimlo y dylwn ymddiheurio am wneud gymaint o ffws wrth
geisio tynnu pobl ynghyd i ddechrau'r gwaith o gyfieithu GNOME i'r
Gymraeg, ac yna gwneud bron dim o'r gwaith fy hun.

Clod (a diolch) felly i bawb a wnaeth y gwaith o gyfieithu GNOME 2.4. Dwi
wedi dechrau ei ddefnyddio fan hyn (trwy Fedora Core 1) ac mae'r holl
gyfieithiad o safon uchel iawn. Mae'n hwylus iawn ei ddefnyddio, heb i mi
orfod meddwl 'Beth mae hwnna'n ei olygu?' ac yn y blaen.

Wrth ddefnyddio'r gwahanol raglenni, mi ydw i wedi dod ar draws ambell
wall (nid nifer fawr o gwbl). Nid gwallau ieithyddol yw'r rhain gan amlaf;  
credaf mai teipos yw y mwyafrif ('Micsrosoft', 'gosodf', '>aomt' ac yn y
blaen). Oes yna unrhyw ffordd i nodi'r rhain gennym? A yw hi'n well i mi
ddefnyddio Bugzilla GNOME ar gyfer y pecynnau unigol, neu gadw rhestr
ohonynt fy hun? A oes unrhyw un yn gwybod beth a wneir ar gyfer ieithoedd
eraill?

Hwyl, a diolch unwaith eto - mae defnyddio 2.4 yn Gymraeg wedi fy ysgogi i
wneud rhagor o waith ar gyfieithu 2.6 :)

Rhys
-- 
http://www.wiblog.com/backburner/         http://www.sucs.org/~rhys/ 

_______________________________________________
gnome-cy mailing list
gnome-cy pengwyn linux org uk
http://pengwyn.linux.org.uk/mailman/listinfo/gnome-cy



[Date Prev][Date Next]   [Thread Prev][Thread Next]   [Thread Index] [Date Index] [Author Index]