Re: [gnome-cy] Sut i nodi newidiadau sydd eu hangen?



Ysgrifennodd Rhys Jones:

Wrth ddefnyddio'r gwahanol raglenni, mi ydw i wedi dod ar draws ambell
wall (nid nifer fawr o gwbl). Nid gwallau ieithyddol yw'r rhain gan amlaf; credaf mai teipos yw y mwyafrif ('Micsrosoft', 'gosodf', '>aomt' ac yn y
blaen). Oes yna unrhyw ffordd i nodi'r rhain gennym? A yw hi'n well i mi
ddefnyddio Bugzilla GNOME ar gyfer y pecynnau unigol, neu gadw rhestr
ohonynt fy hun? A oes unrhyw un yn gwybod beth a wneir ar gyfer ieithoedd
eraill?

Yn fy marn i, un ai Bugzilla neu ar y rhestr yma yw'r lle gorau i nodi namau. Ry'n ni wedi derbyn (o leiaf) un nam cyfieithu trwy bugzilla yn barod. Wrth gwrs, os wyt ti am wneud y newidiadau i'r ffeil(iau) .po a danfon allbwn diff mi fyddai hynny'n cyflymu pethau, pa bynnag ffordd yr wyt ti'n danfon y newidiadau atom.

Wedi dweud hynny, fy marn i yw hynny'n unig a gan nad ydyn ni wedi derbyn fawr o gywiriadau, nawr fyddai'r amser i gael teimladau pawb ar hyn :)

Hwyl,

Gareth


_______________________________________________
gnome-cy mailing list
gnome-cy pengwyn linux org uk
http://pengwyn.linux.org.uk/mailman/listinfo/gnome-cy



[Date Prev][Date Next]   [Thread Prev][Thread Next]   [Thread Index] [Date Index] [Author Index]